Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024

 

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                      Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn sicrhau y caiff y Rheoliadau eu diwygio cyn eu gwneud i fynd i'r afael â hyn. Bydd y diffiniad, yn syml, yn cyfeirio at y diffiniadau presennol sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                      Rydym yn ystyried bod dealltwriaeth eang ym maes cyfraith cyflogaeth o'r gwahaniaeth sylfaenol rhwng gweithwyr sy'n gweithio o dan gontract cyflogaeth a gweithwyr sy'n gweithio o dan gontract ar gyfer gwasanaethau. Gan hynny ni roddir eglurhad pellach o'r termau hyn yn y Rheoliadau hyn. Ni chynigir unrhyw ddiwygiadau.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:                      Er bod y diffiniad yn cyfeirio at 2 dystysgrif, mae hyn yn annhebygol o fod yn broblem yn ymarferol oherwydd y bydd yn glir pa fath o dystysgrif y dylid gwneud cais amdani. Er bod cyfeiriad at 2 fath o dystysgrifau gallai fod angen y naill neu'r llall yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Efallai y bydd newid bach i'r geiriad o gymorth i'r darllenydd, ond nid yw hwn yn welliant brys sy'n ofynnol i'r Rheoliadau a bydd yn cael ei adolygu ar y cyfle cyntaf i'w ddiwygio.

 

Pwynt Craffu Technegol 4:                      Er y defnyddir y gair “unigolyn” nifer o weithiau mewn cyd-destunau gwahanol yn y Rheoliadau, rydym yn fodlon ei bod yn ddigon clir pan “noda’r cyd-destun” nad yw'r gair i'w ddehongli yn unol â'r diffiniad o “unigolyn” yn rheoliad 1(3).  Gan hynny, ni chynigir unrhyw newidiadau.

 

Pwynt Craffu Technegol 5:                      Rydym yn fodlon bod cyfraith gyffredin sefydledig yn ymdrin â phan fydd barn plentyn i gael blaenoriaeth dros farn rhiant. Nid oeddem yn ystyried bod angen esboniad pellach yn y Rheoliadau hyn. Gan hynny, ni chynigir unrhyw newidiadau.

 

Pwynt Craffu Technegol 6:                      Bydd ystyr y term “cyflenwadau” yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar yr amgylchiadau a'r math o ofal a roddir. Credwn y bydd y gair yn cael ei ddehongli fel un sydd â'i ystyr arferol yng nghyd-destun gofal a chymorth, felly ni roddwyd unrhyw esboniad pellach. Mae hyn yn unol â'r rheoliadau eraill sy'n defnyddio'r ymadrodd hwn. Gan hynny, ni chynigir unrhyw newidiadau.

 

Pwynt Craffu Technegol 7:                      Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn sicrhau y caiff y Rheoliadau eu diwygio cyn eu gwneud i fynd i'r afael â hyn.

Pwynt Craffu Technegol 8:                      Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn sicrhau y caiff y Rheoliadau eu diwygio cyn eu gwneud i fynd i'r afael â hyn.

 

Pwynt Craffu Technegol 9:                      Mae'r raddfa yn cael ei chydnabod yn gyffredin o fewn y maes, yn ogystal â'r term “niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam”. Mae hyn yn unol â'r rheoliadau eraill sy'n defnyddio'r ymadrodd hwn. Gan hynny, ni chynigir unrhyw newidiadau.

 

 

Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn gwneud y Rheoliadau

CYWIRIADAU A WNAED I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD

CYWIRIADAU A WNAED I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD

 

Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024

 

The Special School Residential Services (Service Providers and Responsible Individuals) (Wales) Regulations 2024

Mae “mae i “gofal a chymorth” (“care and support”) a’r termau unigol “gofal” (“care”) a “cymorth” (“support”) yr un ystyr ag yn adran 3 o’r Ddeddf;” wedi ei fewnosod yn y diffiniadau.

Mae ““care and support” (“gofal a chymorth”) and the individual terms “care” (“gofal”) and “support” (“cymorth”) have the same meaning as in section 3 of the Act;” wedi ei fewnosod yn y diffiniadau.

 

Yn rheoliad 79(3)(b) rhoddir “fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (a)” yn lle “fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl (a)”.

Yn rheoliad 79(3)(b) rhoddir “after paragraph (a) there were inserted” yn lle “it were inserted after (a)””.

Yn rheoliad 82(a) rhoddir “y diffiniad o “y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu”” yn lle ““ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu” (“the Adoption Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019;”.

 

Yn rheoliad 82(a) rhoddir “the definition of “the Fostering Services Regulations”” yn lle ““the Fostering Services Regulations” (“y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu”) means the Regulated Fostering Services (Service Providers and Responsible Individuals) (Wales) Regulations 2019;”. 

Bydd mân faterion fel fformatio, mân newidiadau i’r nodyn esboniadol a’r troednodiadau a chywiro gwallau teipograffyddol hefyd yn cael eu cywiro cyn gwneud.